Pleidleisio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Penyderyn (sgwrs | cyfraniadau)
Wedi diweddaru'r paragraff am bleidleisio a chynrychiolaeth i adlewyrchu yn fwy cywir peryglon Cyntaf i'r Felin
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
Llinell 3:
Mae '''pleidleisio''' neu '''fwrw pleidlais''' yn fodd i grŵp neu [[etholaeth]] wneud penderfyniad neu fynegi barn — yn aml yn dilyn trafodaethau, dadleuon neu ymgyrch etholiadol.
 
Mae'r rhan fwyaf o [[democratiaeth|ddemocratiaethau]] yn penderfynu barn y bobl drwy bleidleisio cyffredin. Dyma'r dull symlaf o ddewis person neu bersonau: er enghraifft, mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer dewis cynrychiolwyr yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]], defnyddir y system yma, sef: [[System etholiadol 'y cyntaf i'r felin']] (neu: 'y cyntaf heibio'r postyn'), lle dewisir un person ar gyfer un darn o dir (yr etholaeth).
 
[[Delwedd:Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd.jpeg|bawd|chwith|120px|Papur Pleidleisio Etholaeth Gorllewin Clwyd; Etholiad Cyffredinol Mai 2015]]
[[Delwedd:Pleidlais amgen.PNG|bawd|chwith|120px|Papur 'Pleidlais Amgen']]
 
Rhoddir un croes ar [[papur pleidleisio|bapur pleidleisio]] i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir pleidleisiau'r sawl sy'n pleidleisio dros bob plaid sy'n colli. Fe allai Plaid A ennill oddeutu 40% bob tro, Plaid B 30%, Plaid C 20% a Phlaid Ch 10%. Mewn sefyllfa o'r fath gallai mwyafrif yr etholwyr fod heb lais - a hynny am gyfnod sylweddol iawn o amser. Wrth osod canlyniadau etholaethau unigol at ei gilydd gellir cael sefyllfa ble mae anghyfartaledd sylweddol rhwng y ganran o bleidleisiau mae plaid yn ei dderbyn a'r ganran o seddi mae'r blaid honno yn ennill. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Llafur yn ennill mwyafrif sylweddol iawn o seddi, ond yn aml dim ond tua 50% o'r bleidlais. Yn genedlaethol roedd gan y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol (ac i raddau llai Plaid Cymru a UKIP) lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir [[cynrychiolaeth gyfrannol|system bleidleisio gynrychioladol]].
 
Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod.
Llinell 40:
 
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
 
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}