Dewi Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James, 1881-1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn ... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:42, 13 Gorffennaf 2008
Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James, 1881-1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn y cystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.[1]
Bywyd Cynnar
Ganed David Emrys James yn Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion ar 28 Mai 1881. Ei dad oedd y Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i Rosycaerau, Sir Benfro,ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Aeth i'r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysgodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn 1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.
Dewi'r Pregethwr
Ar ôl cyfnod fel gweinidog yn Nowlais derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir y Fflint, yn 1908 Yn yr un flwyddyn, prioddodd e Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin.
Llyfryddiaeth
Barddoniaeth
Eraill
Cyfeiriadau