Dewi Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nic Dafis (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James, 1881-1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn ...
 
Nic Dafis (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd o [[Dyfed|Dde-Orllewin Cymru]] oedd Dewi Emrys (David Emrys James, [[1881]]-[[1952]]). Enillodd Gadair yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn y cystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.<ref>"DEWI EMRYS JAMES (1881-1952)", ''Seren Tan Gwmwl'' (dim dyddiad) [http://66.102.9.104/search?q=cache:Gk9oC9g7tPYJ:www.serentangwmwl.net/ffeiliaupdf/Dewi.pdf]</ref>
 
==Bywyd Cynnar==
 
Ganed David Emrys James yn Majorca House, [[Ceinewydd]], [[Ceredigion]] ar [[28 Mai]] [[1881]]. Ei dad oedd y
Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i [[Rhosycaerau|Rosycaerau]], [[Sir Benfro]], ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Aeth i'r ysgol ym [[Pencaer|Mhencaer]] ac Ysgol Ramadeg Jenkins [[Abergwaun]] cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysgodwr ar y ''County Echo'' yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]] ac aeth Dewi i weithio ar y [[Carmarthen Journal]]. Yn [[1903]], fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.
 
==Dewi'r Pregethwr==
Ar ôl cyfnod fel gweinidog yn [[Dowlais|Nowlais]] derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg
[[Bwcle]], [[Sir y Fflint]], yn [[1908]] Yn yr un flwyddyn, prioddodd e Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin. Ym Mwcle ychwanegwyd dau fab i'r teulu, Alun a Gwyn. Yn [[1911]], symudodd y teulu i [[Bontypridd|Pontypridd]]. Yna cyrhaeddodd Dewi ei binacl fel pregethwr, ac ennill enw i'w hun drwy Gymru fel pregethwr penigamp, ond yna hefyd dechreuodd y problemau arianniol a phersonol a fyddai ei ddilyn am weddill ei oes. Ar ôl i'r teulu symud i [[Lundain|Llundain]] yn [[1915]] aeth y problemau yn drech na Dewi, a gadawodd ei deulu a'i eglwys yn [[1917]] gan ymuno â'r fyddin.
[[Bwcle]], [[Sir y Fflint]], yn [[1908]] Yn yr un flwyddyn, prioddodd e Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin.
 
==Y Bardd a'r Crwydyn==
Ar ôl y [[Rhyfel Fawr]], ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o'i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion [[Stryd y Fflyd]], aeth pethau i'r chwith arno, a threuliodd sawl nos tan y sêr ar lannau [[Tafwys]]. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr oedd erbyn hyn i'w weld canu tu allan i'r eglwysi, ei gap yn y ddwylo.
 
Yn [[1926]], fodd bynnag, daeth tro ar fyd Dewi, pan enillodd y [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926|Eisteddfod Genedlaethol Abertawe]] gyda chasgliad o gerddi ''Rhigymau'r Ffordd Fawr''. Yn yr un Eisteddfod, enillodd e gystadleuaeth ''Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith'' gyda'r gerdd a fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwya adnabyddus, "[[Pwllderi]]". Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad oedd rhaid i Ddewi rhoi'r arian enillwyd y yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, ac hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn ''pawn shop'' yn Abertawe<ref>''Dewi Emrys'', Eluned Phillips</ref>.
 
 
 
 
 
Llinell 15 ⟶ 24:
 
'''Barddoniaeth'''
*''[[Y Cwm Unig]]'' ([[1930]])
*''[[Cerddi'r Bythyn]]'' ([[1948]])
 
'''Eraill'''
*''[[Odl a Chynghanedd]]'' ([[1937]])
 
==Cyfeiriadau==