Dewi Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nic Dafis (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Nic Dafis (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
Yn [[1926]], fodd bynnag, daeth tro ar fyd Dewi, pan enillodd y [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926|Eisteddfod Genedlaethol Abertawe]] gyda chasgliad o gerddi ''Rhigymau'r Ffordd Fawr''. Yn yr un Eisteddfod, enillodd e gystadleuaeth ''Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith'' gyda'r gerdd a fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwya adnabyddus, "[[Pwllderi]]". Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad oedd rhaid i Ddewi rhoi'r arian enillwyd y yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, ac hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn ''pawn shop'' yn Abertawe<ref>''Dewi Emrys'', Eluned Phillips</ref>.
 
Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Gadair]] yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1929|Lerpwl, 1929]] ("Dafydd ap Gwilym"), [[Llanelli]], 1930 ("Y Galilead"), [[Bangor]], 1943 ("Cymylau amser"), a [[Pen-y-bont ar Ogwr|Phen-y-bont ar Ogwr]], 1948 ("Yr alltud")<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', Llyfrgell Genedlaethol Cymru [http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-JAME-EMR-1881.html]</ref>.
 
Eth Dewi Emrys i fyw, gyda'i ferch Dwynwen, yn Y Bwthyn, [[Talgarreg]], [[Sir Aberteifi]] yn [[1941]]. Yn y fan honno dreuliodd gweddill ei oes. Bu farw yn [[Aberystwyth]] yn mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dwedodd ei gyfaill, y Prifardd [[T. Llew Jones]] am yr achlysur:
 
<blockquote>Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Abetystwyth ar Fedi'r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn
dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.<ref>"DEWI EMRYS JAMES (1881-1952)", ''Seren Tan Gwmwl'' (dim dyddiad) [http://66.102.9.104/search?q=cache:Gk9oC9g7tPYJ:www.serentangwmwl.net/ffeiliaupdf/Dewi.pdf]</ref></blockquote>
 
Llinell 24 ⟶ 28:
 
'''Barddoniaeth'''
*''Rhigymau'r ffordd fawr'' ([[1926]])
*''Rhymes of the road'' ([[1928]]) (yn Saesneg)
*''Y Cwm Unig'' ([[1930]])
*''Cerddi'r Bythyn'' ([[1948]])
Llinell 29 ⟶ 35:
'''Eraill'''
*''Odl a Chynghanedd'' ([[1937]])
*''Beirdd y Babell'' (gol.), ([[1939]])
 
==Cyfeiriadau==