Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Comisiwn Haldane: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB |
|||
Llinell 4:
== Sefydlu ==
Sefydlu Prifysgol Cymru drwy gyfrwng [[Siarter Frenhinol]] ar [[30 Tachwedd]] [[1893]] oedd penllanw’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel ‘mudiad’ prifysgol Cymru. Yn chwarter olaf y
Cyn 1893, yr oedd y Colegau a sefydlodd y Brifysgol wedi bod yn paratoi eu myfyrwyr ar gyfer graddau allanol [[Prifysgol Llundain]], ac fel corff ar gyfer arholi a dyfarnu graddau yn bennaf y cafodd y Brifysgol ei chyfansoddi. Materion i’r Colegau eu hunain oedd penodi staff academaidd a’r cyfrifoldeb dros addysgu, a chafodd peirianwaith ffederal Llys y Brifysgol a Senedd y Brifysgol ei gynllunio i sicrhau bod y cynlluniau astudio yr oedd y Colegau’n eu darparu yn ddigonol ar gyfer dyfarnu graddau’r Brifysgol, ac i ddiogelu’r safonau arholi. Mae’r gwahaniaeth bras hwn rhwng y cyfrifoldebau ffederal a’r cyfrifoldebau cyfansoddol yn parhau hyd heddiw.
|