Weston-super-Mare: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
}}
 
Tref ar lan y môr yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]], [[De-orllewin Lloegr]], yw '''Weston -super -Mare'''. Fe'i lleolir ar [[Môr Hafren|Fôr Hafren]] tua 18 milltir i'r de o [[Bryste|Fryste]]. Mae'n enwog am ei thraeth tywodog, er bod y môr ar drai yn gallu bod dros filltir i ffwrdd o'r traeth. Er iddi arfer bod yn rhan o Wlad yr Haf, cafodd ei gynnwys yn sir [[Avon]] o 1974 ymlaen. Pan gafodd sir Avon ei diddymu ym 1996, crewyd [[awdurdod unedol]] [[Gogledd Gwlad yr Haf]], a Weston yn ganolfan weinyddol iddo. Lleolir rhan fwya'r dref ar dir isel gwastad, ond mae rhan o'r dref yn llechi ar lethrau Worlebury Hill, bryn carreg galch sydd yn rhan o'r [[Bryniau Mendip]]. Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 71,758.<ref>[http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/census-2001-key-statistics/urban-areas-in-england-and-wales/index.html Gwefan ystadegau'r Cyfrifiad Cenedlaethol: [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]]]; adalwyd 09/02/2013</ref>
 
==Tarddiad yr enw==
Llinell 30:
 
[[Delwedd:winter gardens wsm.jpg|bawd|chwith|400px|Y traeth a Gerddi'r Gaeaf.]]
Serch hynny, hyd at y 19eg ganrif, dim ond pentref pysgota bychan oedd Weston -super -Mare. Daeth tŵf mawr yn ystod y 19eg ganrif gyda'r rheilffordd a'r diddordeb mawr Fictorianaidd mewn gwyliau ar lan y môr. Daeth ymwelwyr yn llu ar y rheilffordd o [[Bryste|Fryste]] ac o Ganolbarth Lloegr. Cafodd glowyr de Cymru wyliau yno hefyd gan ddod ar y stemar olwyn o [[Caerdydd|Gaerdydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]]. Adeiladwyd ''villas'' a thai mawr ar lethrau Worlesbury Hill o'r 1850au ymlaen.
 
Ers yr [[Ail Ryfel Byd]] mae lle Weston fel tref wyliau wedi dirywio. Mae costau teithio ar dramor wedi gostwng, ac felly mae'n well gan lawer o bobl gymryd eu gwyliau mewn gwledydd tramor megis [[Sbaen]], [[Ffrainc]] a'r [[Yr Eidal|Eidal]]. Hefyd, gyda dirywiad diwydiant ledled Prydain, mae llai o weithwyr diwydiannol yn barod i gymryd eu gwyliau gyda'i gilydd.