Realpolitik: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif ar bymtheg → 19g using AWB
 
Llinell 1:
[[Gwleidyddiaeth]] neu [[diplomyddiaeth|ddiplomyddiaeth]] sy'n seiliedig ar ystyriaethau ymarferol yn hytrach na syniadau [[ideoleg]]ol, ac felly polisïau gydag amcanion cyfyngedig sydd â siawns rhesymol o lwyddiant yw '''''Realpolitik''''' ([[Almaeneg]]: ''{{lang|de|real}}'' "realistig", "ymarferol" neu "wirioneddol"; a ''{{lang|de|Politik}}'' "gwleidyddiaeth") neu yn Gymraeg '''realpolitic'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [realpolitik].</ref> Tarddodd y term a'r cysyniad o'r [[Yr Almaen|Almaen]] yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg19g fel ymateb i'r dadrith a deimlwyd o ganlyniad i ddiffyg [[realaeth wleidyddol|realaeth]] mewn polisïau rhyddfrydwyr yn ystod [[Chwyldroadau Almaenig 1848]]. Defnyddir ''Realpolitik'' yn aml i ddisgrifio polisïau [[Otto von Bismarck]], [[Canghellor yr Almaen|Canghellor]] cyntaf [[Ymerodraeth yr Almaen]].
 
Mae ''Realpolitik'' yn awgrymu sylw craff at fanylder, [[cymedroldeb (gwleidyddiaeth)|cymedroldeb]], a pharodrwydd i ddefnyddio grym os oes angen. Camddefnyddir y term yn aml fel cyfystyr am [[gwleidyddiaeth grym|wleidyddiaeth grym]] (neu ''Machtpolitik''), ac yn aml mae gan y term gysylltiad negyddol â pholisi tramor [[yr Almaen Natsïaidd]].