Rhyfel Cartref Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Y Rhyfel Cartref yng Nghymru: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
Llinell 30:
Yn Nhachwedd 1640 trwy gyfrwng y Senedd Hir, chwalwyd y fiwrocraiaeth frenhinol a diddymwyd Llys yr Uchel Gomisiwn (sef prif arf Laud) ac ymosodwyd ar yr esgobion a'u ''Llyfr Gweddi Gyffredin''. Yn ystod cyfnod y Llys Hir, yr unig Gymro a oedd yn deyrngar i'r brenin oedd [[Herbert Price]] (fl. 1615 - 1663), pendefig a noddwr llenyddiaeth o'r hen [[Sir Frycheiniog]] ac a gynrychiolai Aberhonddu. Er hyn, pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1642, dim ond 5 o ASau o Gymru oedd yn driw i'r Senedd, a dim ond siroedd Penfro (oherwydd masnach) a Wrecsam (oherwydd pwer [[Thomas Myddelton]]). Erbyn 1646 roedd [[Castell Rhaglan]] wedi cwympo ac roedd lluoedd y Senedd yn rheoli'r cyfan o Dde Cymru. Ymestynodd grym Myddelton dros y Gogledd ac erbyn Mawrth 1647 ildiwyd [[Castell Harlech]] i'r Seneddwyr a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben
 
Yn Sir Benfro y taniwyd gwreichionen gyntaf yr Ail Ryfel Cartref, yn dilyn codi trethi trwm, gan y Seneddwyr a chyda marwolaeth Essex, gwanhawyd dylanwad y Seneddwyr yng Nghymru. Datganodd John Poyer (llywiawdwr [[Castell Penfro]]) a Rice Powell (llywiawdwr [[Castell Dinbych-y-pysgod]]) eu cefnogaeth i'r brenin. Martsiodd y ddau i Gaerdydd ac ymuno gyda Laugharne (a oedd wedi newid ei got). Ar 8 Mai 1648 trechwyd Laugharne a'i griw brenhinol ym mrwydr bwysicaf y Rhyfel cartref yng Nghymru: [[Brwydr Sain Ffagan]]. Ysgubodd Cromwell drwy Dde Cymru ac i fyny i'r Gogledd; ym Môn yr ymladdwyd y frwydr olaf.
 
Arwyddwyd warant marwolaeth y brenin gan rai Cymry: