Robert John Rowlands (Meuryn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Gwaith llenyddol: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 20fed ganrif → 20g using AWB
Llinell 10:
Dan yr enw Meuryn daeth i sylw Cymry llengar fel nofelydd o 1902 ymlaen. Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Gadair]] yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn 1921 gyda'i [[awdl]] 'Min y Môr'. Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant hŷn a chyfres o nofelau dirgelwch poblogaidd. Fel beirniad ar [[ymryson barddol|ymrysonau barddol]] y [[BBC]] daeth yn ffigwr cyfarwydd yn y diwylliant Cymraeg; daw'r gair 'meurynnu', sef beirniadu a barnu cerddi mewn ymryson, o'i enw barddol a chyfeirir at y beirniad ei hun fel 'y meuryn' yn ogystal.<ref name="Gwynn Jones 1983"/>
 
Fe'i cofir yn bennaf am ei lyfrau plant a'i nofelau dirgelwch. Gwelir tair thema amlwg yn ei waith, sef antur, natur a dirgelwch. Lleolir rhai o'i lyfrau gorau yng nghefn gwlad Cymru a rhydd ei nofelau dirgelwch a ditectif ddarlun o gymdeithas y Gogledd Cymru wledig ganol yr 20fed ganrif20g. Roedd wrth ei fod ym myd natur ac yn arbennig bryniau a chymoedd y [[Carneddau]] yn [[Eryri]]. Yn ei deyrnged iddo meddai ei gyfaill a chyd-newyddiadurwr [[E. Morgan Humphreys]],
 
:Ymhyfrydai ym myd natur, ac yr oedd yn adnabod pob aderyn a oedd yn ehedeg yn awyr bro ei febyd, Aber ger Bangor. Roedd wedi darllen llawer hefyd am bob math o greaduriaid estronol - nid rhyfedd i Feuryn ddod yn adnabyddus fel awdur cyfrolau o storïau am wylltfilod yn ddiweddarach.<ref>''Yr Herald Gymraeg'', 29 Mawrth, 1954. Dyfynnir yn ''Dewiniaid Difyr''.</ref>