Salvador, Brasil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 20fed ganrif → 20g using AWB
Llinell 2:
 
[[Image:Salvador downtown port from sea.jpg|250px|bawd|Harbwr Salvador o'r bae]]
Dinas ar lan [[Cefnfor Iwerydd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Brasil]] a phrifddinas talaith [[Bahia]] yw '''Salvador''' (enw hanesyddol, '''São Salvador da Baía de Todos os Santos''' neu '''Salvador de Bahia'''; weithiau '''Bahia''' yn unig ar hen fapiau ac mewn llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol yr 20fed ganrif20g). Mae'n enwog ym Mrasil am ei [[carnifal|charnifal]] a'i diwylliant poblogaidd, ei cherddoriaeth a'i phensaerniaeth. Salvador oedd prifddinas gyntaf gwladfa [[Portiwgal|Bortiwgalaidd Brasil]], ac mae'n un o'r hynaf yn y wlad honno ac un o'r dinasoedd [[Ewrop]]eaidd hynaf yn y Byd Newydd. Gyda phoblogaeth o 2,892,605 (2007), dyma'r ddinas drydedd fwyaf poblog ym Mrasil, ar ôl [[São Paulo]] a [[Rio de Janeiro]], a'r wythfed felly yn [[America Ladin]], ar ôl [[Dinas Mexico]], [[São Paulo]], [[Buenos Aires]], [[Lima]], [[Bogotá]], [[Rio de Janeiro]] a [[Santiago de Chile]].
 
Mae dros 80% o boblogaeth Salvador o dras etnig [[Affrica]]naidd, ac mae'n brif ganolfan y diwylliant Affro-Frasilaidd. Mae canol Salvador, y 'Pelourinho', yn nodweddol am ei adeiladau hanesyddol, yn cynnwys [[Eglwys Gadeiriol Salvador]], ac mae wedi cael ei dynodi gan [[UNESCO]] yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] ers 1985.