Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir yn bentrefymhentref [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]], [[Ceredigion]], yw '''Y Lolfa'''. Fe'i sefydlwyd fel gwasg fasnachol gan yr awdur [[Robat Gruffudd]] yn [[1967]].
 
Tyfodd y wasg allan o'r deffroad ieithyddol a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yng nghanol chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Ei "marchnad" oedd y to newydd o bobl ifanc a gododd yn y cyfnod ac yr oedd ei chynnyrch cynnar yn cynnwys deunydd newydd, ffres ar gyfer y genhedlaeth hon, yn ganeuon poblogaidd, cardiau doniol, posteri lliwgar, seicedelaidd ac yn farddoniaeth "answyddogol".
Gwnaeth y wasg enw iddi hun fel cyhoeddwr llyfrau nad oedd yn dderbyniol gan rai o'r cyhoeddwyr mwy, am eu bod yn cael eu hystyried yn wleidyddol eithafol er enghraifft, neu am fod eu cynnwys yn debyg o gael ei ystyried yn [[maswedd|fasweddus]]. Un o gyhoeddiadau mwyaf dadleuol Y Lolfa oedd y cylchgrawn [[dychan]]ol blynyddol ''[[Lol (cylchgrawn)|Lol]]'', math o ''[[Private Eye]]'' Cymraeg a gododd wrychyn sawl aelod o'r sefydliad Cymreig.
 
Roedd gan y cwmni gysylltiad agos ond anffurfiol â ''[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]]'' a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, ''[[Tafod y Ddraig]]'' am gyfnod hir.
 
Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg ''[[offset litho]]''. Manteisiodd ar y rhyddid dyluniol a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad lyfrau Cymraeg. Ar yr un pryd cynhyrchodd ddeunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol ''[[Y Blew]]'', cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer ''[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]]''.
 
Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant megis Y Llewod a chyfres Rwdlan, llyfrau dysgu Cymraeg yn llawn hiwmor gwleidyddol anghywir, nofelau cyfoes, a llyfrau ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Bu'r cwmni hefyd yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro "gwledig" cyntaf yn Gymraeg, '[[Papur Pawb]]'' yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974). Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.
 
Erbyn hyn mae'r cwmni'n cyhoeddi rhychwant eang o lyfrau safonol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ennill y wobr ''[[Llyfr y Flwyddyn]]'' dair blynedd yn olynol. Un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni oedd cyhoeddi ''[[Llyfr y Ganrif]]'' ac y cyd â ''[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]'' yn y flwyddyn 1999.
 
Mae'r Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn cyflogi ugain o bobl yn amser llawn mewn adeiladau yn Nhal-y-bont. Yn ogystal â chyhoeddi, mae'n cynnig gwasanaeth argraffu cyffredinol ar beiriannau 5-lliw a pherffeithio yn y maint B2.
 
Cyfarwyddwyr ''[[Y Lolfa]]'' yw Garmon Gruffudd (Rheolwr Gyfarwyddwr) a Lefi Gruffudd (Golygydd Cyffredinol).
 
Ond mae'r Lolfa yn cyhoeddi nifer o lyfrau mwy safonol yn ogystal. Dros y blynyddoedd mae wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r farchnad llyfrau poblogaidd yn y Gymraeg, gan ddenu darllenwyr na fyddai, efallai, yn debyg o brynu cynnyrch mwy "uchel ael".
 
== Dolenni Allanol ==