Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir ymhentref [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]], [[Ceredigion]], yw '''Y Lolfa'''. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn enw'r Lolfa yn 1966 ''Hyfryd Iawn'', ond yn 1967 y sefydlwyd y cwmni fel gwasg fasnachol gan [[Robat Gruffudd]] yn [[1967]].
 
Tyfodd y wasg allan o'r deffroad ieithyddol a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yng nghanol chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Ei "marchnad" oedd y to newydd o bobl ifanc a gododd yn y cyfnod ac yr oedd ei chynnyrch cynnar yn cynnwys deunydd newydd, ffres ar gyfer y genhedlaeth hon, yn ganeuon poblogaidd, cardiau doniol, posteri lliwgar, seicedelaidd ac yn farddoniaeth "answyddogol".