Seisnigo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
→‎Seisnigo yng Nghymru: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
 
Llinell 3:
 
== Seisnigo yng Nghymru ==
Am ganrifoedd, mae dylanwad yr iaith [[Saesneg]] yng [[Cymru|Nghymru]] wedi arwain at Seisnigo helaeth yn y wlad, yn bennaf mae wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad [[Cymraeg]]. Yn y 19eg ganrif19g gorfodwyd y Saesneg ar drigolion mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwneud y Saesneg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth cyrff megis y [[Swyddfa Bost]] a chynghorau trefi a siroedd a holl ffurflenni cenedlaethol e.e. tystysgrifau geni a threth. Y Saesneg oedd iaith addysg hefyd a defnyddiwyd dulliau fel y [[Welsh Not]] i sicrhau na fyddai plant Cymru'n siarad Cymraeg yn ysgolion y wlad. Digwyddodd hyn yn ddiweddar mewn sawl ffordd: y [[mewnlifiad]] o Loegr i Gymru a thrwy'r cyfryngau Saesnig megis y [[teledu]].
 
Gwelir [[Benthyg geiriau i'r Gymraeg#Saesneg|effaith y Saesneg ar eiriau Cymraeg]] gyda thermau o darddiad [[Saesneg]] yn disodli hen eiriau Cymraeg, e.e. erbyn heddiw, defnyddir yr enw [[Lerpwl]] ([[Cymreigio|Cymreigiad]] o ''Liverpool'') llawer amlach na'r hen enw Llynlleifiad. Mae idiomau Saesneg hefyd wedi disodli llawer o'r idiomau cynhenid e.e. "cario mlaen" a glywir yn aml ar y cyfryngau yn hytrach na "dal ati". Mae'r [[Y Faner Newydd|Faner Newydd]] wedi bod yn flaenllaw yn eu hymgyrch i newid hyn.