Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd gan y cwmni gysylltiad agos ond anffurfiol â ''[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]]'' a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, ''[[Tafod y Ddraig]]'' am gyfnod hir.
 
Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg ''[[offset litho]]''. Manteisiodd ar y rhyddid dyluniol a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad lyfrau Cymraeg. Ar yr un pryd cynhyrchodd ddeunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol ''[[Y Blew]]'', cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer ''[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]]''.
 
Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant fel Y Llewod a chyfres Rwdlan, llyfrau dysgu Cymraeg yn llawn hiwmor gwleidyddol anghywir, nofelau cyfoes, a llyfrau ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Ond penderfynodd [[Y Lolfa]] ddilyn polisi o beidio cyhoeddi addasiadau o gwbl, gan ddefnyddio awduron, arlunwyr a dylunwyr Cymreig bob tro.
Llinell 11:
Bu'r cwmni yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro "gwledig" cyntaf yn Gymraeg, ''[[Papur Pawb]]'' yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974). Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.
 
Erbyn hyn mae'r cwmni'n yn un o brif cyhoeddwyr Cymru, ac yn cyhoeddi rhychwant eang o lyfrau safonol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ennill y wobr ''[[Llyfr y Flwyddyn]]'' dair blynedd yn olynol. Un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni oedd cyhoeddi ''[[Llyfr y Ganrif]]'' ac y cyd â ''[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]'' yn y flwyddyn 1999.
 
Mae'r Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn cyflogi ugain o bobl yn amser llawn mewn adeiladau yn Nhal-y-bont. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau, mae'n cynnig gwasanaeth argraffu cyffredinol ar beiriannau 5-lliw a pherffeithio yn y maint B2.