Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7:
Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg ''offset litho''. Manteisiodd ar y rhyddid dyluniol a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad lyfrau Cymraeg. Ar yr un pryd cynhyrchodd ddeunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol ''[[Y Blew]]'', cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer ''[[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]]''.
Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant (Y Llewod a chyfres
Bu'r cwmni yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro "gwledig" cyntaf yn Gymraeg, ''[[Papur Pawb]]'' yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974). Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.
|