Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B en
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Bu'r cwmni yn gysylltiedig ag argraffu a chyhoeddi'r papur bro "gwledig" cyntaf yn Gymraeg, ''[[Papur Pawb]]'' yn Nhal-y-bont, Ceredigion (1974). Y Lolfa hefyd oedd y wasg gyntaf Gymraeg i gael ei gwefan ei hun.
 
Erbyn hyn mae'r cwmni yn un o brif cyhoeddwyr Cymru, ac yn cyhoeddi rhychwant eang o lyfrau safonol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ennill, yyn ddiweddar, wobr ''Llyfr y Flwyddyn'' dair blynedd yn olynol. Un o'r uchafbwyntiau yn hanes y cwmni oedd cyhoeddi Llyfr y Ganrif ac y cyd â ''[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]'' yn y flwyddyn 1999.
 
Mae'r Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn cyflogi ugain o bobl yn amser llawn mewn adeiladau yn Nhal-y-bont. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau, mae'n cynnig gwasanaeth argraffu cyffredinol ar beiriannau 5-lliw a pherffeithio yn y maint B2.