Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir ymhentref [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]], [[Ceredigion]], yw '''Y Lolfa'''. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn enw'r Lolfa yn 1966 — ''Hyfryd Iawn'' gan Eirwyn Pontshân — ond yn 1967 y sefydlwyd y cwmni fel gwasg fasnachol gan [[Robat Gruffudd]].
 
Tyfodd y wasg allan o'r deffroad ieithyddol a gwleidyddol a ddigwyddodd yng Nghymru yng nghanol chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Gellir dweud mai ei "marchnad" cynharaf oedd y to newydd o bobl ifanc a gododd yn y cyfnod ac atyn nhw y cyfeiriwyd llawer o ddeunydd y wasg, yn llyfrau canu poblogaidd, cardiau doniol, posteri seicedelaidd a barddoniaeth "answyddogol".