Swahili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g (2) using AWB
Llinell 14:
Ysgrifennwyd Swahili yn gyntaf yn yr [[orgraff Arabaidd]]. Yn ogystal â chadw cofnodion masnachol a gweinyddol ysgrifennwyd llenyddiaeth yn Swahili, yn enwedig barddoniaeth.
 
Datblygodd yr iaith ymhellach o dan ddylanwad gweinyddiaethau Almaenig ac i raddau llai Prydeinig. Hybwyd Swahili gan genhadon Cristnogol y 19eg ganrif19g a ddechreuodd ysgrifennu’r iaith yn yr [[orgraff Rufeinig]] a chreu geiriaduron a llyfrau gramadeg ar gyfer Swahili. Ludwig Krapf a ysgrifennodd y gramadeg a'r geiriadur cyntaf tua [[1848]]. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yn Swahili, ''Habari ya Mwezi'' yn [[1895]] gan genhadon. Erbyn heddiw yr orgraff Rufeinig a ddefnyddir i ysgrifennu Swahili modern. Cafwyd benthyg peth geirfa o'r Almaeneg a llawer yn rhagor o'r Saesneg. Mae Swahili yn dal i fenthyca o'r Saesneg on hyd yn hyn cymharol fychan yw cyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn Swahili, o'i gymharu â chyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn aml i iaith yn Ewrop.
 
== Sefyllfa Swahili ac effaith datblygiadau gwleidyddol ers annibyniaeth yn Nwyrain Affrica ==
Llinell 27:
 
=== Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ===
Mae Kiswahili yn un o bedair iaith swyddogol yn y Congo ac yn iaith y fyddin yng ngorllewin y wlad. Roedd Kiswahili wedi cyrraedd dwyrain y Congo gyda'r masnachwyr o Zanzibar ac arfordir Tanganica. Ymledodd ei ddefnydd yn nhalaith Katanga yn y de-ddwyrain pan yr agorwyd mwyn-gloddiau yno ar droad y 19eg ganrif19g, gan ddenu gweithwyr o wahanol lwythau at ei gilydd.
 
== Datblygiadau eraill ==