Urdd Sant Ffransis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Sefydlwyd yr urdd gan Sant [[Ffransis o Assisi]] ([[1181]] - [[1226]]). Yn gynnar yn [[1209]]. clywodd bregeth a newidiodd ei fywyd. Roedd y bregeth ar [[Efengyl Matthew|Matthew]] 10:9, lle mae [[Iesu]] yn dweud wrth ei ddilynwyr am fyned allan heb arian, na hyd yn oed ffon gerdded. Dilynodd Ffransis y gorchymyn, gan deithio o le i le yn droednoeth yn pregethu edifeirwch. Cyn hir, ymunodd ei ddilynwr cyntaf, [[Bernardo di Quintavalle]], ag ef, ac ymhen blwyddyn roedd ganddo unarddeg o ddilynwyr. Aethant i Rufain i ofyn caniatad [[Pab Innocent III]] i ffurfio urdd grefyddol newydd. Gwrthododd Innocent, ond y noson honno cafodd freuddwyd lle gwelodd ddyn tlawd yn cynnal eglwys adfeiliedig rhag syrthio. Galwodd Ffransis yn ôl a newidiodd ei benderfyniad.
 
Ymhlith aelodau enwog o'r Urdd mae [[Anthoni o Padua]], [[Bonaventure]], [[John Duns Scotus]], [[Jacopone da Todi]] (awdur tybiedig y ''[[Stabat Mater]]''), [[Roger Bacon]], [[François Rabelais]], [[Alexander o Hales]], [[William o Ockham]], [[Giovanni da Pian del Carpini]], [[Pio o Pietrelcina]], [[Mychal F. Judge]] a [[Gabriele Allegra]].
 
Mae tair cangen i'r Ffransiscaid modern: ''Ordo Fratrum Minorum'', ''Ordo Fratrum Minorum Capuccinorum'' a'r ''Ordo Fratrum Minorum Conventualium''.