Thomas Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Bywgraffiad: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB
Llinell 6:
Ganed Powell ym mhlwyf y Cantref, [[Brycheiniog]] yn 1608 (yn ôl pob tebyg). Astudiodd yng [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu, Rhydychen]], lle cyfarfu gyda Thomas a Henry Vaughan am y tro cyntaf. Etifedodd reithoriaeth y Cantref gan ei dad ond bu anghydfod rhyngddo a'r awdurdodau yng nghyfnod [[Gwerinlywodraeth Lloegr]] a bu rhaid iddo adael Cymru a byw tramor am dymor.<ref>Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.</ref>
 
Mae ei waith llenyddol yn cynnwys cyfieithiad o'r [[Eidaleg]] o lyfr gan Malvezzi wrth y teitl ''Christian Politician'' a'r ''Elementae Opticae'' (1651). Cyhoeddodd un llyfr [[Cymraeg]], sef ''Cerbyd Iechydwriaeth'' (1657), traethawd sy'n adlewyrchu ei farn am anghyfiawnder y wladwriaeth [[Piwritaniaeth|Biwritanaidd]]. Credir mai ef hefyd a gyhoeddodd ''Olor Iscanus'' ei gyfaill Henry Vaughan yn 1654, cyfrol o farddoniaeth a ystyrir yn un o glasuron Saesneg yr 17eg ganrif17g.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.</ref>
 
Gadawodd lawysgrifau ar ei ôl sy'n amlygu ei ddiddordeb yn hynafiaeth y [[Cymry]] a'r [[Celtiaid]].