Llangadwaladr, Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Owen Lewis - angen troi hwn yn erthygl
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
 
Sefydlodd, gyda William Allen, ddwy brifysgol: y naill ai yn Douai a'r llall yn Rhufain a rhoddodd swydd i'w gyfaill [[Morys Clynnog]] (c. 1525 - 1581) yn y coleg yn Rhufain. Ym [[Milan]], rhwng 1580 a 1584 gweithredodd fel Gweinyddwr y brifysgol. Croesawyd ef yn gynnes i Milan gan yr Archesgob Carlo Borromeo ac arhosodd Owen gydag ef a'i deulu am gyfnod. Ym mreichiau Owen y bu farw Borromeo. Daeth Cymry eraill ato i'r Eidal, gan gynnwys [[Gruffydd Robert]] (cyn 1531 - ar ôl 1598).<ref>Wietse de Boer, ''The Conquest of the Soul: confession, discipline, and public order in Counter-Reformation Milan'' (2001), t. xiii; [https://books.google.com/books?id=KlKT2sakrDMC&pg=PR13 Google Books]</ref>
 
Yn Rhufain bu'n gyfrifol am bolisiau'n ymwneud â [[Mari, brenhines yr Alban]] a Choleg Reims.<ref>Paul Burns, ''Butler's Lives of the Saints: February'' (1998), t. 207; [https://books.google.com/books?id=fuH5Uka64MUC&pg=PA207 Google Books].</ref> Ar 3 Chwefror 1588 penodwyd ef yn Archesgob Cassano ym Mrenhiniaeth Napoli ac ordeiniwyd ef gan Nicolas de Pellevé ar 14 Chwefror.<ref name=CathHierOwenLewis />
 
Bu farw yn Rhufain ar 14 Hydref 1594 a chladdwyd ef yn y brifysgol a sefydlodd, lle codwyd cofeb iddo gydag arysgrif Ladin arno.
 
==Cysylltiadau allanol==