Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Celtiaid"

Lleihawyd o 14 beit ,  2 flynedd yn ôl
→‎Llenyddiaeth: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif → 4g using AWB
(→‎Dadl ynglŷn â "Cheltiaid" ynysig: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g using AWB)
(→‎Llenyddiaeth: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif → 4g using AWB)
===Llenyddiaeth===
 
Ni oroesodd dim o lenyddiaeth Geltaidd y cyfandir. Mae'n debyg i Gâl, er enghraifft, cael ei Seisnigeiddio cyn i'r llenyddiaeth lafar gael ei rhoi mewn ysgrifen. Fodd bynnag, mae hen lenyddiaeth o Gymru ac yn arbennig o Iwerddon wedi goroesi, sydd yn rhoi golwg ar fywyd Celtaidd. Ymhlith y pwysicaf o'r rhain mae [[Cylch Wlster]] ac yn arbennig y ''[[Táin Bó Cúailnge]]'' ("gyrru ymaith wartheg Cooley"), cerdd y credir ei bod wedi ei gosod yn y bedwaredd ganrif4g er bod y llawysgrifau yn llawer mwy diweddar. Mae'n rhoi hanes rhyfel rhwng [[Wlster]] a [[Connacht]] pan mae byddin [[Medb]], brenhines Connacht yn ymosod ar Wlster i geisio dwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]], ac ymdrechion yr arwr ieuanc [[Cúchulainn]] i'w hatal. Yn ôl [[John Davies (hanesydd)|John Davies]], "rhyfeddod yw canfod ynddi gyffelybiaethau â'r disgrifiadau o'r Celtiaid a geir yng ngweithiau llenorion clasurol megis Posidonius a Cesar" <ref>John Davies ''Y Celtiaid'' tud. 111</ref> Cylch pwysig arall yw [[Cylch Fionn]] o tua'r un cyfnod, yn adrodd hanes yr arwr [[Fionn mhac Cumhaill]] a'i wŷr.
 
Gellir gweld adlais o'r un arferion Celtaidd mewn rhannau o Bedair Cainc y Mabinogi yng Nghymru, ac efallai yn arbennig yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]''. Mae'n debyg bod y chwedlau hyn wedi eu newid cryn dipyn gan gopïwyr Cristionogol, ond ymddengys fod nifer o'r cymeriadau ar un adeg wedi bod yn dduwiau Celtaidd.<ref>Davies ''Y Celtiaid'' t. 77</ref>
417,732

golygiad