Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig"

dim crynodeb golygu
{{infobox person/Wikidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no}}
[[Delwedd:Eglwys Sant Deiniol Penarlag St Deiniol Church 01.JPG|bawd|300px|Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, [[Penarlâg]], [[Sir y Fflint]].]]
DirfeddiannwrTirfeddiannwr Gymreig a gwleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] oedd '''Syr Stephen Richard Glynne''', 9fed Barwnig ([[22 Medi]] [[1807]] – [[17 Mehefin]] [[1874]]). Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r [[Prif Weinidog|Brif Weinidog]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]].<ref>GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GLYN-PEN-1603.html] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
==Cefndir==
Bu farw Syr [[Stephen Richard Glynne, 8fed Barwnig|Stephen]] yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys [[Castell Penarlâg]]) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.<ref>GLYNNE, Sir Stephen Richard, 9th bt. (1807-1874), of Hawarden Castle, Flint The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/glynne-sir-stephen-1807-1874] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
[[Delwedd:Sir Stephen Glynne 01.jpeg|bawd|chwith|Syr Stephen Glynne]]
 
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd [[William Ewart Gladstone]]. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7] adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw [[Penarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref [[Castell Penarlâg (18fed ganrif)|Castell Newydd Penarlâg]] gyda William a Catherine.
 
==Marwolaeth ==
[[Delwedd:Eglwys Sant Deiniol Penarlag St Deiniol Church 01.JPG|bawd|300px|Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, [[Penarlâg]], [[Sir y Fflint]].]]
 
Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk<ref>MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573398/ART18] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg.<ref>Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573413/ART40] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>