Iceni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
'''Eceni'''. Roeddynt yn byw yn yr ardal sy'n awr yn swydd [[Norfolk]]. Efallai fod y '''Cenimagni''', a ildiodd i [[Iŵl Cesar]] yn [[54 CC]] yn gangen o'r Iceni.
 
Ymddengys i'r Iceni ildio i Rufain heb lawer o drafferth. Fodd bynnag, pan fu farw eu brenin [[Prasutagas]], yn [[61]], dechreuodd y [[procurator]] Rhufeinig [[Catus]] anrheithio yr Iceni a'u tiroedd. Cipiodd [[Buddug (Boudica)]], gwraig Prasutagus, a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, [[Legio IX Hispana]]. Aethant yn eu blaen i gipio [[Verulamium]] ([[St Albans]]), y brifddinas Rufeinig ar y pryd [[Camelodunum]] ([[Colchester]]), ynghyd â porthladd [[Londinium]] ([[Llundain]]).
 
Brysiodd y rhaglaw [[Suetonius Paulinus]] a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: [[Legio XIV Gemina]], rhan o [[Legio XX Valeria Victrix]] a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger [[Brwydr High Cross|High Cross]] ar [[Stryd Watling]] a bu brwydr mawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.