Nervii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Llwyth [[Belgae|Belgaidd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Gâl]] oedd y '''Nervii'''. Roedd eu tiriogaethau i'r dwyrain o [[Afon Scheldt]]. Yn ôl [[Iŵl Cesar]], hysbysodd y [[Remi]] ef mai'r Nervii oedd y pellaf o lwythau y Belgii. Yn ôl [[Strabo]], fodd bynnag, llwyth o darddiad Amlaenig oeddynt. Eu prifddinas oedd Bagacum ([[Bavay]] heddiw).
 
Ystyriai Iŵl Cesar mai hwy oedd y mwyaf rhyfelgar o lwythau Gâl. Roeddynt yn rhan o'r cynghrair Belgaidd a'i gwrthwynebodd. Wedi i'r cynghfraircynghrair yma ddod i ben, parhaodd y Nervii i ymladd dan eu pennaeth Boduognatus, a chyda'r [[Atrebates]] a'r [[Viromandui]], daethant yn agos ar orchfygu Cesar ym Mrwydr Afon Sabis yn [[57 CC]], er iddynt ddioddef colledion trwm yn y diwedd. Ymunodd y Nervii a gwrthryfel [[Ambiorix]] a'r [[Eburones]] yn [[53 CC]].