Yr Hen Ogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychymygol rhwng cyffiniau [[Stirling]] a [[Loch Lomond]] a'r siroedd Seisnig presennol [[Cumbria]], [[Swydd Gaerhirfryn]], [[Swydd Durham]], [[Northumberland]], [[Swydd Efrog]] a [[Humberside]]. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy [[Elfed]]) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal [[Sir Gaer]] heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda [[Brwydr Caer]] yn [[615]]. Ffurf ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] a droes yn [[Cymraeg Cynnar|Gymraeg Cynnar]] oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: [[Cymbreg]] yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.
 
'[[Bonedd Gwŷr y Gogledd‎|Gwŷr y Gogledd]]' yw'r enw tradodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] y [[Votadini]], [[Selgovai]], [[Novantai]] a'r [[DumnoniiDamnonii]] (yn ne'r Alban) a'r [[Brigantes]] i'r de o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]].
 
Lleolir nifer o draddodiadau a chymeriadau sydd i'w cael yn llenyddiaeth Cymraeg Canol yn yr Hen Ogledd. Yn eu plith y mae arwyr dwy o'r ''[[Tair Rhamant]]'', sef [[Owain ab Urien]] (''[[Iarlles y Ffynnon]]'') a ''[[Peredur fab Efrog]]''.