Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helvetii"

Ychwanegwyd 1 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(llun)
B
Llwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r [[Y Swistir|Swistir]] oedd yr '''Helvetii'''. Daw enw swyddogol [[Lladin]] y Swisdir, ''Confoederatio Helvetica'' neu ''Helvetia'', o enw'r llwyth.
 
Ceir manylion amdanynt gan [[Iŵl Cesar]] yn ei ''[[Commentarii de Bello Gallico]]''. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, [[Orgetorix]], wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr [[Alpau]] i orllewin [[Gâl]]. Gadawodd yr Helvetii eu catreficartrefi yn [[58 CC]]. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr [[Allobroges]], roedd Cesar wedi malurio'r bont yn [[Genefa]] i'w hatal rhag croesi. Gyrroedd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. dilynodd yt Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r [[Sequani]], ac anrheithio tiroedd yr [[Aedui]], a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi [[Afon Saône]], a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger [[Bibracte]], a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchynynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.
 
 
37,236

golygiad