Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf using AWB
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu gwybodaeth
Llinell 182:
== Yr Iaith Gymraeg ==
 
[[Cymraeg]] oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g a'r unig iaith y fwyafrif tan diwedd y 19eg canrif.<ref>Cyfrifiad 1901</ref> Gwelir y Gymraeg yn enwau llefydd ym mro Dysynni ac mewn enwau strydoedd a tai (heblaw y rhai a newidiwyd yn diweddar. Parodd arferion Cymraeg fel defnyddio enw bedydd tad fel cyfenw a parhau i defnyddio enw tad ar fel cyfenw i wragedd ar ôl iddynt priodi hyd at ganol y 19eg canrif. <ref>Cofrestri eglwys Cadfan</ref> Hyd yn oed heddiw defnyddir enwau ffermydd yn lle cyfenwau yn Dail Dysynni, y papur bro lleol.
 
=== Cymraeg a Saesneg yn eglwys Cadfan ===
O ganol y 19eg canrif daeth pwysau i defnyddio Saesneg "ar gyfer ymwelwyr. <ref name=":4" /> Gellid gweld yr effaith yn eglwys Cadfan. Dwedodd un o deulu Kettle am yr eglwys yn y 1860au "It was a church for the Welsh then" er cynhaliwyd oedfa Saesneg ar gyfer ymwelwyr ar brynhawniau yn yr haf. Erbyn dechrau yr ugainfed canrif yr oedd oedfa Saesneg am 8 y.b. yn y Gymraeg am 10 y.b; yn Saesneg am 11 y.b a Cymraeg am 6 y.h.<ref>The Parish of Towyn, 1914, pamffled yn Archifdy Meirionnydd heb cyfeirnod</ref> Yn 1899 penderfynnodd cynnal oedfa "in Welsh and English."<ref>Merioneth County Times. 10.8.1899</ref> a diriwiodd y defnydd o'r Gymraeg. Rhywbryd cyn 1932 diflanodd oedfaon Cymraeg yn llwyr. Ceisiodd Henry Thomas, y ficer newydd yn 1932 eu adfywio ond ni parodd yr ymdrech. Erbyn heddiw ni cynhelir gwasanaethau yn iaith Cadfan yn yr eglwys ble gwelir yr engraifft cynharaf o ysgrifen Cymraeg.
 
=== Gwersyll y Morfa ===
Sefydlodd Gwersyll y lluoedd arfog ar forfa Tywyn yn 1940. Mae rhai sy'n byw yn Nhywyn heddiw yn credu fod hwn oedd yr ergyd mwyaf i'r Gymraeg yn Nhywyn. Bu poblogaith uniaith Saesneg yna trw'r flwyddyn heb ddim parch at y Gymraeg. Daeth mwy o gwynion am ddifyg darpariaeth Saesneg. <ref name=":4" /> Gadewodd y byddin yn 1969. <ref>Cambrian News 2.11.1969</ref> Roedd teimladau cymysg yn Nhywyn gan fod rhai o'r dref yn gweithio yn y Gwersyll. Parodd fel maes awyr am rhai blynyddoedd nes caewyd Gwersyll y Morfa yn llwyr yn 1999 <ref>Cambrian News 4.3.1999</ref> ond cafodd priodasau rhwng milwyr a Cymry leol a penderfyniad nifer i ymddeol i'r dref dylanwad ar y defnydd o'r Gymraeg.
 
=== Adfywiad ===
Dechrauodd sefyllfa y Gymraeg gwella yn y chwechdegau. Ers 1974 mae Cyngor Gwynedd wedi darparu gwasanaethau yn y Gymraeg ac mae'r iaith yn rhan hanfodol o addysg plant. Ers 1996 mae'r Bwrdd Iechyd Leol wedi bod yn gweithredu polisi Gymraeg. Mae gwrthwynebiad i'r Gymraeg yn para mewn rhai lefydd. Pan agorodd Meddygfa leol newydd yn 2016, fel rhan o datblygiad yr Ysbyty Coffa, bu pob arwydd a godwyd gan y Meddygfa yn uniaith Saesneg. Gwrthododd y Meddygfa cais gan Comisiynydd y Gymraeg am arwyddion dwyieithog. <ref>Llythyr ar rhan Comisiynydd y Gymraeg 5.9.2016, cyf. Cydnabod Pryder 340</ref>
 
Cofnododd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001]] fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan [[Estyn]] fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.<ref>Williams, William Edwards. 2010. [http://www.estyn.gov.uk/download/publication/162107.4/inspection-reportysgol-penybryncym2010 Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd], t. 1.</ref>
Llinell 189 ⟶ 198:
Mae cyswllt rhwng nifer o drigolion mwyaf nodedig y plwy ac [[Ynysymaengwyn]], ystâd y bu i'w sgwïeiriaid ddominyddu'r dref o'r 14g hyd yr ugeinfed.
 
*Arthur ap Huw: Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes) yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer Eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.<ref>Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych'', 28, p. 120.</ref> Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun [[Gwrth-Ddiwygiad|gwrth-ddiwygiadol]] George Marshall, ''A Compendious Treatise in Metre'' (1554).<ref>Bowen, Geraint. 1956. [http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1280432/article/000040032 Arthur ap Huw]. ''Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru'', 9.3, t. 376.</ref>
*Dafydd Jones: Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y [[Dadeni Dysg]] yng Nghymru.<ref>{{ODNBweb|id=14987|last=Roberts|first=Brynley F.|title=Johns, David (fl. 1572–1598)|year=2004}}</ref> Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o [[cywydd|gywyddau]] ([[Llyfrgell Brydeinig]] Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
*Edward Morgan: Ceir nifer o gerddi o'r d18g i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.<ref>Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. ''Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd'', 4.2, tt. 97-118.</ref> Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o [[Llangelynnin (Meirionnydd)|Langelynnin]], yn frawd i'r llenor ac ysgolhaig [[John Morgan (ysgolhaig)|John Morgan]] (Matchin), ac yn ficer Eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y 18g.