Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Fro Gymraeg"

Ychwanegwyd 131 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
Map Ionawr 1964
(Map Ionawr 1964)
== Tiriogaeth y Fro Gymraeg ==
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Oherwydd y newid syfrdanol hwn, cyhoeddodd [[Owain Owain]] map o'r [[Fro Gymraeg]] yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd fel term gwleidyddol am y tro cyntaf <ref>[http://www.owainowain.net/ygwleidydd/YFroGymraeg/yfroGymraegEiHun.htm Tafod y Ddraig Rhif 4; Ionawr 1964] </ref>.
 
[[Delwedd:Yfrogymraeg.jpg|thumb|250px|Map gan [[Owain Owain]] yn diffinio'r Fro Gymraeg yn Rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig]]
 
 
Genhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de ac hyd at [[Dyffryn Aman]] yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu.