86,744
golygiad
BDim crynodeb golygu |
B (manion) |
||
Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi o [[Gallia Transalpina]] ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylch [[Afon Po]], ar ôl gorchfygu'r [[Etrwsciaid]] lleol. Yn ystod ail hanner y [[3edd ganrif CC]] ffurfiodd y Boii a llwythau Celtaidd eraill gogledd yr Eidal gynghrair â'r Etrwsciaid yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]]. Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid mewn cynghrair a [[Hannibal]] hefyd, gan ladd y cadfridog Rhufeinig Lucius yn [[224 CC]], ac wedyn yn [[193 CC]] ger Mutina ([[Modena]] heddiw). Wedi hyn, gadawodd llawer o'r Boii yr Eidal.
Roedd cangen arall o'r llwyth wedi ymsefydlu yn Pannonia. Dywed [[Strabo]] iddynt orchfygu ymosodiadau gan y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]] yn yr [[2il ganrif CC]]. Ymunodd carfan ohonynt a'r [[Helvetii]] pan geisiodd y llwyth hwnnw ymfudo i orllewin Gâl, a chael eu gorchfygu gan [[Iŵl Cesar]]. Caniataodd llwyth yr [[Aedui]] i weddillion y rhain ymsefydlu yn eu tiriogathau hwy, yn cynnwys ''[[oppidum]]'' [[Gorgobina]].
Roedd cangen arall o'r Boii ar wastadeddau Hwngari o gwmpas [[Afon Donaw]]. Cofnodir iddynt gael eu gorchfygu gan y [[Daciaid]] tua [[40 CC]].
Mae olion ohonynt i'w gweld mewn
|