Boii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Web Biatec.jpg|thumb|right|300px|[[Biatec]] gwreiddiol ar y chwith, a chopi modern ar ddarn 5-[[Slovak koruna|koruna]] arian tebyg i'r rhai a grewyd gan y Boii.]]
 
Llwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] oedd y '''Boii''' ([[Lladin]] lluosog, yr unigol oedd ''Boius''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Βοιοι''). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yng [[Gâl|Ngâl]], yn cynnwys gogledd [[yr Eidal]], [[Pannonia]] (gorllewin [[Hwngari]] heddiw]]), [[Bohemia]], [[Morafia]] a gorllewin [[Slovacia]]. Cadwyd eu henw yn yr enw "Bohemia".
 
Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi o [[Gallia Transalpina]] ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylch [[Afon Po]], ar ôl gorchfygu'r [[Etrwsciaid]] lleol. Yn ystod ail hanner y [[3edd ganrif CC]] ffurfiodd y Boii a llwythau Celtaidd eraill gogledd yr Eidal gynghrair â'r Etrwsciaid yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]]. Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid mewn cynghrair a [[Hannibal]] hefyd, gan ladd y cadfridog Rhufeinig Lucius yn [[224 CC]], ac wedyn yn [[193 CC]] ger Mutina ([[Modena]] heddiw). Wedi hyn, gadawodd llawer o'r Boii yr Eidal.