Lefiathan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tl:Leviatan
tacluso, cat
Llinell 2:
Anghenfil chwedlonol dinistriol sy’n byw yn nyfnderoedd y [[môr]] yw '''Lefiathan'''. Cyfeirir at Lefiathan sawl gwaith yn [[y Beibl]]. [[Duw]] a’i creodd ''er difyrrwch'' (gw. Salm. 104.25-26).
 
Ceir disgrifiad llawn a lliwgar yn ''[[Llyfr Job]]'' (Job 41). Dywedir amdano, ''"Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. Y mae’n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid bach''" (Job 41.33-34). Dywed Duw wrth [[Job]] am Lefiathan, ''"Os ceisir ei drywanu â’r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â’r waywffon, na’r dagr, na’r bicell. Y mae’n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae’n trafod cerrig-tafl fel us. Fel sofl yr ystyria’r pastwn, ac mae’n chwerthin pan chwibana’r bicell''" (Job 41.26-29). Mae’n ddychrynllyd ei olwg. Pan ddaw Duw i waredu [[Israel]] bydd ''"yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr''" (Eseia 271). Mae ganddo sawl pen yn ôl y Salmydd: ''"Ti, â’th nerth, a rannodd y môr; torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr''" (Salm 74.13-14).
 
Gellid ei gymharu â [[Behemoth]], anghenfil arall o'r traddodiad Beiblaidd, sy’n tra-arglwyddiaethu ar anifeiliaid y tir yn yr un modd ag y mae Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr. Gelwir brenhinoedd gormesol wrth ei enw. Yn [[yr Oesoedd Canol]] credid yr ymddangosai fel un o’r arwyddion o ddiwedd y byd a’r [[Dydd y Farn|Farn Fawr]]: ''

:Llwyth byt yg griduan; /
:Ergelawr [huan]; /
:Dygetawr Llawethan''
:(''Armes Dydd Brawd¹'', BBGCC 20.27-9).
 
Mae'r athronydd Seisnig [[Thomas Hobbes]] yn benthyg yr enw yn ei lyfr dylanwadol ''Leviathan''; yno saif yr anghenfil am Lywodraeth sydd efallai yn ddychrynyllyd oherwydd ei nerth a'i gallu ac eto'n angenreidiol er lles dynolryw.
Llinell 13 ⟶ 18:
*J.C.J. Metford, ''Dictionary of Christian Lore and Legend'' (Llundain, 1983). ISBN 0500273731
 
== CysylltiadauDolenni allanol==
* {{eicon en}} [http://www.bookofjob.org Putting God on Trial- The Biblical Book of Job] Lefiathan mewn llenyddiaeth.
 
 
[[Categori:Creaduriaid mytholegol]]
[[Categori:Mytholeg Iddewig]]
[[Categori:Yr Hen Destament]]