A Welsh Grammar, Historical and Comparative: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Llyfr gramadeg gan Syr John Morris-Jones a gafodd ddylanwad sylweddol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth yn yr 20fed ganrif oed...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llyfr [[gramadeg]] gan Syr [[John Morris-Jones]] a gafodd ddylanwad sylweddol ar ddatblygiad yr iaith [[Gymraeg]] a'i [[llenyddiaeth Gymraeg|llenyddiaeth]] yn yr [[20fed ganrif]] oedd '''''A Welsh Grammar, Historical and Comparative'''''. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn [[1913]].
 
Cnewyllyn y gyfrol oedd erthygl J. M-J. yn y 1890au ar yr iaith Gymraeg a'i gramadeg yn ''[[Y Gwyddoniadur Cymreig]]''. Ehangodd ar y braslun hwnnw mewn cyfres o ddarlithoedd ar yr iaith yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], [[Bangor]] yn y 1910au. TraddodwyTraddodwyd y darlithoedd hynny yn y [[Saesneg]], fel oedd yr arfer yng ngholegau [[Prifysgol Cymru]] yr adeg yna, a Saesneg yw iaith y gramadeg ei hun.
 
Un o brif fwriadau J. M-J. oedd olrhain datblygiad geiriau a chystrawennau Cymraeg ac o'r herwydd ceir nifer fawr o enghreifftiau o ffurfiau [[Cymraeg Canol]] yn y llyfr, sy'n ei wneud yn adnodd werthfawr hyd heddiw. Ond ei brif amcan oedd gosod seiliau cadarn i'r iaith fel ffurf lenyddol yn yr 20fed ganrif, gan ddadwneud effaith yr arbrofi mympwyol ag orgraff yr iaith Gymraeg — gan [[William Owen Pughe]] ac eraill — a'r cystrawennau Seisnigaidd sy'n nodweddiadol o lawer o weithiau Cymraeg y 19eg ganrif.
 
Is-deitl y gyfrol yw "''Phonology and accidence''", a bu rhai aros tan 1931, ar ôl marwolaeth Syr John, i gael cyhoeddi ei gyfrol ''Welsh Syntax'', sy'n barhad o'r ''Welsh Grammar''.
 
==Llyfryddiaeth==