Y Gwyddoniadur Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gwyddoniadur Cymreig.JPG|300px|bawd|Cyfrol IX o'r ''Gwyddoniadur Cymreig'' (1878)]]
'''Y Gwyddoniadur Cymreig''' (neu'r '''Encyclopaedia Cambrensis''') oedd y gwaith [[gwyddoniadur]]ol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith [[Gymraeg]]. Cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng [[1854]] a [[1879]] gan [[Thomas Gee]] ar ei wasg enwog yn nhref [[Dinbych]] ([[Gwasg Gee]]). Y golygydd cyffredinol oedd [[John Parry (golygydd)|John Parry]] ([[1812]]-[[1874]]), brawd-yng-nghyfraith Gee a darlithydd yng [[Coleg y Bala|Ngholeg]] [[Y Bala]]. Erys y cyhoeddiad mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.
 
Costiodd y fenter tua £20,000 i Thomas Gee. Roedd hynny'n swm aruthrol yn y cyfnod hwnnw, yn cyfateb i tua £1,000,000 heddiw.<ref>[http://www.cylchgrawnbarn.com/index.php?tudalen=219&PHPSESSID=4adcebc1e7af965f32798ea0a00d9c48 ''Barn'']</ref>