Rhodd Mam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wedi symud Rhodd Mam i Rhodd Mam (nofel): nofel a enwir ar ol y llyfr catecism |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Catecism]] neu holwyddoreg [[Eglwys Fethodistaidd Cymru]] yn y [[19eg ganrif]] ar gyfer pobl ifanc oedd '''''Rhodd Mam''''' (argraffiad cyntaf: [[1811]]). Fe'i gelwir yn "Rhodd Mam" am fod mamau yn ei brynu i'w plant ddefnyddio yn yr [[Ysgol Sul]].
Ei awdur oedd y gweinidog a golygydd [[John Parry (gweinidog)|John Parry]], sefydlydd gwasg yn ninas [[Caer]]. Ceiniog yn unig oedd ei bris pan ddaeth allan, ond er yn llyfr bychan cafodd ddylanwad mawr gan hyfforddi cenedlaethau o blant ac oedolion yn egwyddorion y [[Cristnogaeth|Ffydd]]. Daeth yr enw yn ystrydeb. Argraffwyd miloedd lawer o gopïau ac roedd yn un o'r llyfrau Cymraeg mwyaf cyfarwydd yn y 19eg ganrif.
[[Categori:Llyfrau Cymraeg]]
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Llyfrau 1811]]
{{eginyn Cristnogaeth}}
|