Y Lolfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Rwyf wedi ychwanegu dau droednodyn a chywiro'r testun yn arwynebol.
B Wedi ychwanegu cwpwl o luniau i wneud y wefan yn fwy deniadol a diddorol!
Llinell 1:
[[Delwedd:Y Lolfa mural.gif|bawd|Warws Y Lolfa yn Nhal-y-bont â murlun gan yr artist lleol, Ruth Jên]]
 
Gwasg argraffu a chyhoeddi a leolir ym mhentref [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]], [[Ceredigion]], yw '''Y Lolfa'''. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn enw'r Lolfa yn 1966 — ''Hyfryd Iawn'' gan [[Eirwyn Pontshân]] — ond yn 1967 y sefydlwyd y cwmni fel gwasg fasnachol gan [[Robat Gruffudd]].
 
Llinell 6 ⟶ 8:
 
Y Lolfa oedd y wasg gyhoeddi Gymraeg gyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg ''offset litho''. Manteisiodd ar y rhyddid a gynigiai'r dull newydd hwn o argraffu i gynhyrchu deunydd mentrus a fyddai'n llanw bylchau pwysig yn y farchnad [[llenyddiaeth Gymraeg|lyfrau Cymraeg]]. Ar yr un pryd roedd yn cynhyrchu deunydd argraffu lliwgar megis ar gyfer y grwp trydanol ''[[Y Blew]]'', cyngherddau "Pinaclau Pop", yn ogystal â nifer fawr o bosteri gwleidyddol ar gyfer Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
 
[[Delwedd:Fflur Arwel II.gif|chwith|bawd|Fflur Arwel, pennaeth marchnata'r Lolfa, yn dangos llyfr cynta'r wasg, ''Hyfryd Iawn'']]
 
Datblygodd y cwmni'n raddol gan fentro i feysydd newydd fel cyfresi poblogaidd i blant ('Y Llewod' a chyfres 'Rwdlan'), llyfrau dysgu Cymraeg yn llawn hiwmor gwleidyddol anghywir, [[nofel]]au cyfoes, a llyfrau ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Er mwyn cefnogi arlunwyr a dylunwyr Cymreig, penderfynodd Y Lolfa ddilyn polisi o beidio cyhoeddi addasiadau.