Cornbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Schematic diagram of the human eye cy.svg||bawd|Llygad dynol]]
 
Rhan flaen dryloyw y [[llygad]] sy’n gorchuddio’r [[Iris (anatomeg)|iris]], cannwyll y llygad a’r siambr flaen ydy’r '''gornbilen'''. Mae’r gornbilen, fel y siambr flaen a’r lens, yn plygu golau ac yn darparu dau draean o nerth optegol cyfan y [[llygad]]. Mae’r gornbilen yn cyfrannu at y mwyafrif o nerth canolbwyntio’r llygad, ond sefydlog ydy’r ffocysu. Gan gymhwyso crymedd y lens, mireinir y ffocws yn ôl pellter y gwrthrych. 
 
==Strwythur==
Mae gan y gornbilen terfynau nerfau anfyelinog sy'n synhwyro cyffwrdd, tymheredd a [[Cemeg|chemegion]]. Mae cyffwrdd â'r gornbilen yn peri atgyrch anwirfoddol i gau'r amrant. Oherwydd bod tryloywder yn hollbwysig, nid oes gan y gornbilen bibellau gwaed. Yn eu lle, mae [[ocsigen]] yn hydoddi mewn dagrau ac yn tryledu ledled y gornbilen i'w chadw'n iach. <ref>http://www.aclm.org.uk/index.php?url=04_FAQs/default.php&Q=3</ref>
 
Yn yr un modd mae maetholion yn cael eu cludo trwy dryledu o'r hylif dagrau trwy'r arwyneb allanol. Yn y llygad dynol, mae gan y gornbilen diamedr o oddeutu 11.5mm a thrwch 0.5-0.6mm yn y canol a 0.6-0.8mm ar y cyrion. Tryloywder, diffyg pibellau gwaed, presenoldeb celloedd imiwnedd preswyl anaeddfed, a braint imiwnolegol sy'n neilltuo'r gornbilen fel meinwe arbennig iawn.