Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
Manylion am ffiniau
Heulfryn (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Sir yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] yw '''Sir Gaernarfon'''. Ffurfiwyd y sir ym [[1284]] trwy uno [[cantref]]i [[Arfon]], [[Arllechwedd]] a [[Llŷn]]. Defnyddwyd Sir Weinyddol Caernarfon ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Heddiw, caiff tiriogaeth y sir ei gweinyddu gan gynghorau [[Gwynedd]] a [[Sir Conwy]]. Cofrestrwyd baner swyddogol ar gyfer y sir yn 2012.
 
Bu peth newid yn ffiniau'r sir yn 1895, pan symudwyd y rhannau hynny o blwyf <nowiki>[[Beddgelert]]</nowiki> a arferai fod yn <nowiki>[[Sir Feirionnydd]]</nowiki>, sef y tir i'r de a'r dwyrain o'r <nowiki>[[Afon Gwynant]]</nowiki>/<nowiki>[[Afon Glaslyn]]</nowiki> i fod yn rhan o Sir Gaernarfon. Roedd plwyf Llysfaen a threfgordd Eirias ym mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos yn ynys fach o Sir Gaernarfon o fewn ffiniau <nowiki>[[Sir Ddinbych]]</nowiki> hyd 1922, pan unwyd hwy agweddillâ gweddill Sir Ddinbych.
 
Dros y blynyddoedd bu rhai yn ceisio dadlau bod <nowiki>[[Ynys Enlli]]</nowiki> yn rhan o Sir Benfro ond ni chafwyd unrhyw gyfiawnhad dros y fath honiad, a dichon mai ymdrech imosgoi talu trethi'r sir oedd y tu ôl i'r awgrym.
 
==Llyfryddiaeth==