Geiriadur Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
==Hanes y geiriadur==
===Yr Argraffiad Cyntaf===
Dechreuodd gwaith ar y [[geiriadur]] yn [[1921]] gan dîm bychan o staff cyflogedig yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Aberystwyth]], dan ofal y Parch. [[J. Bodvan Anwyl]] a drefnodd, fel Ysgrifenydd, griw mawr o ddarllenwyr gwirfoddol i chwilio geiriau Cymraeg mewn ffynonellau yn amrywio o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]] i lyfrau printiedig hen a diweddar. Dechreuwyd ar y dasg o olygu'r deunydd hwnnw a chreu'r geiriadur ei hun ym mlwyddyn academaidd [[1948]]/[[1949]], dan olygyddiaeth [[R. J. Thomas]], gyda'r geiriadur yn cael ei gyhoeddi mewn rhannau unigol 64 tudalen ; cyfanswm o 61 o rannau erbyn y diwedd.
Mae'r Argraffiad Cyntaf yn cynnwys 7.3 miliwn o eiriau testun ar 3,949 tudalen, ac yn dogfennu 105,000 gair pen. Ceir bron i 350,000 dyfyniad dyddiedig, o'r 7fed ganrif hyd 2002, gyda 320,000 diffiniad yn y Gymraeg a 290,000 [[synonym]] Saesneg.
|