Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wikitext wedi symud i Brad y Llyfrau Gleision
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Llyfrau Gleision, Brad y Llyfrau Gleision'''
 
Adroddiad ar gyflwr [[addysg]] yng [[Cymru|Nghymru]] a gomisiynwyd gan senedd [[San Steffan]]. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynnol yn haf 1847. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt.
 
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams]] AS Coventry ond Cymro o [[Llanpumpsaint|Lanpumpsaint]], [[Sir GaerfryddinGaerfyrddin]] yn wreiddiol. Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] 1831, y [[Mudiad y Siartwyr|Siartwyr]] yn [[Y Drenewydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]] yn 1839 a [[Merched Beca]] trwy gydol y ddegawd cyn 1846, roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r Gymraeg a diffyg addysg ([[Saesneg]]) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion.
 
Bu'r adroddiad gan dri Eglwyswr o Sais na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu moesoldeb ac am natur cyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu.
Llinell 9:
Mae'r Adroddiad yn adnodd hynod ddiddorol a gwerthfawr ar gyfer haneswyr cymdeithasol a lleol. Ond ei brif effaith a'i enwogrwydd oedd iddo greu adwaith seicolegol o waseidd-dra ymhlith y Cymry wrth iddynt geisio gwrth-brofi y sen ar eu moesoldeb a'u hiaith a achoswyd gan yr Adroddiad.
 
Mae'r Adroddiad wedi ei ddigido ar gwefan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] [http://www.llgc.org.uk], i'w ddarllen ewch at:[http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c088.htm]