Shirley Bassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
fformat
fformat, dolenni
Llinell 2:
 
Mae ei chaneuon enwocaf yn cynnwys ''[[As Long as He Needs Me]]'' (1960), ''[[What Now My Love]]'' (1962), ''[[I, Who Have Nothing]]'' (1963) ''[[Goldfinger]]'' (1964), ''[[Big Spender]]'' (1967), "Something" (1970) a ''[[Diamonds Are Forever (cân)|Diamonds are Forever]]'' (1971). Ym 1995, cafodd ei phleidleisio fel Personoliaeth y Flwyddyn ym Myd Adloniant gan y Variety Club Prydeinig.
 
 
== O'i genedigaeth tan 1960: Ei Llwyddiannau Cynnar ==
 
Ganwyd Bassey yn 182 Stryd Bute, [[Tiger Bay]], Caerdydd i forwr o dad a oedd yn Efik Nigeriaidd a mam o Swydd [[Swydd Efrog]]. Ysgarodd ei rhieni pan oedd yn dair oed. Fe'i magwyd yn ardal dosbarth gweithiol y ddinas yn Tiger Bay. Yr ieuengaf o saith o blant, gadawodd Bassey Ysgol Moorland yn 15 oed gan fynd i weithio mewn ffatri a pherfformio mewn clybiau lleol ar y penwythnosau. Yn fuan iawn, trodd yn gantores broffesiynol a chafodd nifer o senglau llwyddiannus tu hwnt a gyrfa a ymestynodd dros bedwar degawd. Ym 1953, perfformiodd mewn [[sioe gerdd]] o'r enw ''Memories of Jolson'' a oedd yn seiliedig ar fywyd y canwr [[Al Jolson]]. Yna symudodd ymlaen i ''Hot from Harlem'' a barodd tan 1954.
 
Erbyn hyn, roedd Bassey wedi cael ei dadrithio gan fyd canu a beichiogodd yn 16 oed gyda ei merch Sharon a dychwelodd i weithio fel gweinyddes yng Nghaerdydd. Ym 1955 fodd bynnag, cafodd ei henw ei grybwyll i Michael Sullivan, asiant o [[Streatham]] ac ail-ddechreuodd ei gyrfa. Pan welodd ef Bassey, penderfynodd fod ganddi'r potensial i fod yn seren. Teithiodd Bassey gan berfformio mewn amryw theatrau tan iddi dderbyn rhan mewn sioe a ddaeth ag enwogrwydd iddi sef sioe'' Al Read Such is Life'' yn Theatre yr Adelphi yn y West End yn [[Llundain]]. Tra'n y sioe hwn, cynigiodd Johnny Franz, cynhyrchydd recordiau gytundeb recordio iddi. Recordiodd Bassey ei record cyntaf o'r enw "''Burn My Candle"'' a cafodd ei ryddhau ym mis Chwefror 1956 pan oedd Bassey yn 19 oed yn unig.
 
O ganlyniad i eiriau awgrymog y gân, penderfynodd y BBC ei gwahardd. Serch hynny, gwerthodd y record yn dda, yn enwedig gyda fersiwn bŵerus Bassey o "''Stormy Weather"''. Dilynwyd hyn gan fwy o senglau ac ym mis Chwefror 1957, cafodd Bassey ei llwyddiant mawr cyntaf gyda "Banana Boat Song" a aeth i rif 8 yn y Siart Senglau Prydeinig. Yn yr un flwyddyn recordiodd y sengl "''If I Had a Needle and Thread"'' o dan arweiniad y cynhyrchydd Americanaidd Mitch Mitchell o dan y label Columbia. Yng nghanol 1958, recordiodd dwy sengl a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron yn ngyrfa gerddorol Bassey: "As I Love You" a oedd ar ail ochr sengl y gân serch "Hands Across the Sea". Nid oedd y gwerthiant yn dda fodd bynnag ond wedi iddi berfformio yn y Palladium yn [[Llundain]], gwelwyd cynnydd yn y gwerthiant. Ym mis Chwefror 1959, cyrhaeddodd rhif 1 yn y siart ac arhosodd yno am bedair wythnos. Recordiodd Bassey "''Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me''" hefyd yr un cyfnod ac wrth i "As I Love You" ddringo'r siart, gwnaeth "Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me" hefyd, gyda'r ddwy gân yn nhri uchaf y siart yr un pryd. Rhai misoedd yn ddiweddarach, arwyddodd Bassey gytundeb gyda EMI Columbia, a dechreuodd yr ail gyfnod yn ei gyrfa.