Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 28:
==Y Fulfran==
 
Bydd yn nythu yn y siroedd gorllewinol o Benfro i Ynys Môn. Yn aml i'w gweld allan yn y môr mewn siroedd eraill. Ymwelydd cyson â llynnoedd mewndirol,yn bennaf rhwng diwedd haf a dechrau gwanwyn. Mae Prydain ac Iwerddon yn gartref i tua 14% o boblogaeth Mulfrain yn Ewrop (Lloyd et al 1991). Credir bod rhwng 83,000 ac 85,000. Yn ôl arolwg Seabird Colony Register (1985-87) amcangyfrir bod tua 11,700 rhwng Prydain ac Iwerddon, ac yng Nghymru gwelwyd bod tua 1,700 o barau,sy'n dangos cynnydd o dros 19% ers yr arolwg gwreiddiol (Operation Seafarer) yn 1969-70, a thua 15% o rai Prydain ac Iwerddon.<ref>Lovegrove R., Williams G. a Williams I,. Birds in Wales Cyh T & D Poyser</ref>
Mae Prydain ac Iwerddon yn gartref i tua 14% o boblogaeth Mulfrain yn Ewrop (Lloyd et al 1991). Credir bod rhwng 83,000 ac 85,000. Yn ôl arolwg Seabird Colony Register (1985-87) amcangyfrir bod tua 11,700 rhwng Prydain ac Iwerddon, ac yng Nghymru gwelwyd bod tua 1,700 o barau,sy'n dangos cynnydd o dros 19% ers yr arolwg gwreiddiol (Operation Seafarer) yn 1969-70, a thua 15% o rai Prydain ac Iwerddon.
 
Tybir bod y cynnydd graddol yn rhannol oherwydd nad yw'r Fulfran yn cael ei herlid cymaint ag y bu. Edrychid arnynt fel pla gan bysgodfeydd a chaent eu saethu oherwydd hynny. Yn arbennig, oherwydd am eu bod yn mynychu llynnoedd oedd wedi eu stocio â physgod a chronfeydd dŵr, 'roedd hyn yn eu gwneud yn gystadleuwyr gyda physgotwyr. O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gellir rheoli Mulfrain o dan drwydded i osgoi difrod i bysgodfeydd. Ond yng Nghymru yn ystod yr wythdegau 'roedd Bwrdd Dŵr Cymru yn erbyn lladd Mulfrain gan iddynt addasu polisi oedd yn rheoli'n effeithiol adar oedd yn ysglyfaethwyr pysgod drwy Gymru gyfan. Mae Rhanbarth Cymru o'r Awdurdod Afonydd wedi parhau i wneud hyn ers 1989. Boddwyd nifer fechan o Fulfrain mewn rhwydi tagellau yn agos i'r lan (D. Thomas, pers comm.), ond nid yw hi'n broblem fawr, er bod cynnydd yn y defnydd o'r rhwydi 'monofilament' hyn. <ref>Lovegrove R., Williams G. a Williams I,. Birds in Wales Cyh T & D Poyser</ref>
 
Nid yw'r Mulfrain yn nythu mewn siroedd sydd â thraethau heb glogwyni sef Fflint, Dinbych, Mynwy, Caerfyrddin a Morgannwg. Nythodd nifer fechan yn Thurba Head, Penrhyn Gŵyr, hyd ddiwedd y saithdegau, ond nid ar ôl 1971. Amheuir bod rhai wedi nythu o bryd i'w gilydd yn Wharley Point a Telpyn Point yn Sir Gaerfyrddin, ond ni chafwyd prawf pendant. mae'r prif ardaloedd nythu ar hyd arfordir Cymru yn yr ardaloedd gorllewinol.<ref>Lovegrove R., Williams G. a Williams I,. Birds in Wales Cyh T & D Poyser</ref>
(I'w barhau a'i olygu)