Tomos Prys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd Tomos Prys yn fab i [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o [[Plas Iolyn|Blas Iolyn]], [[Sir Ddinbych]]. Wedi marw ei dad daeth yn berchen maenor [[Ysbyty Ifan]].
 
Bu'n ymladd yn y rhyfeloedd yr [[yr Iseldiroedd]] dan [[Robert Dudley, iarll Leicester]], ac roedd yn [[Tilbury]] yn y fyddin a godwyd i wrthwynebau [[Armada Sbaen]] yn [[1588]]. Treuliodd gryn dipyn o amser ar y môr fel môr-leidr; mae "Cywydd i ddangos yr heldring a fu i ŵr pan oedd ar y môr" yn adrodd ei hanes yn prynu llong ac yn mynd i ysbeilio ar arfordir [[Sbaen]]. Am gyfnod bu'n byw ar [[Ynys Enlli]]. Treuliodd lawer o amser yn [[Llundain]]. Roedd yn hoff o ymgyfreithio, a gwariodd lawer o arian ar hynny; er enghraifft daeth ag achos llys yn erbyn [[Syr John Wynn]] o Wydir, ond collodd.
 
Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda Margaret, merch William Gruffydd o [[Caernarfon|Gaernarfon]], gan gael tri o blant. Wedi ei marwolaeth hi, priododd Jane, merch Hugh Gwynn, Berth-ddu a [[Bodysgallen]]; cawsant ddeg o blant.
 
Cyfansoddodd lawer o [[Cywydd|gywyddau]], a bu'n ymryson a nifer o [[Beirdd yr Uchelwyr|feirdd eraill]], yn cynnwys [[Edmwnd Prys]] a [[Siôn Phylip]]. Roedd ei gyfeillion yn cynnwys y beirdd [[Rhys Cain]], Rhys Wyn ac [[Edmwnd Prys]]. Mae nifer o'r cywyddau yn ddiddorol oherwydd eu bod yn rhoi llawer o'i hanes ef ei hun, ond nid yw beirniaid yn ystyried eu bod o werth llenyddol uchel. Mae'n defnyddio cryn dipyn o Saesneg yn rhai ohonynt.
 
Ymhlith y beirdd a ganodd iddo mae [[Rhisiart Cynwal]].
 
==Darllen pellach==