Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
testun newydd
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 27:
==Statws==
 
Dyma grymodebgrynodeb Cymraeg erthygl y Fulfran yng nghyfrol Adar Nythu Gogledd Cymru: Mae'r Fulfran yn aderyn cyfarwydd sydd i'w weld yn ami ar ein glannau creigiog yn sefyll adenydd ar led. Yn y ddau atlas blaenorol ac yn ôl y cyfrifiad Ilawn diwethaf o Fulfrain yn 1999-2002, dim ond yn y tair sir orliewinol y daethpwyd o hyd i Fulfrain yn nythu. Ni chafwyd tystiolaeth o'r un Fulfran yn nythu i'r dwyrain o Riwledyn. Cynyddodd niter y nythod 50% yng Ngogledd Cymru rhwng 1969-70 a 1999-2002, gan gyfrif am 10% o holl nythod Gwledydd Prydain. Yn Rhiwledyn (428 nyth) ac ar Ynys Seiriol (353 nyth) yr oedd y nythfeydd mwyaf. Gwelwyd adar yn chwilio am safleoedd addas nythu yng nghyffiniau aber afon Dyfrdwy, cronfeydd dwr ar Fynydd Hiraethog a Ilynnoedd ar Ynys Mon. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd nythfeydd yn datblygu yn yr ardaloedd hyn<ref>Brenchley, A. ac eraill (2013) Adar Nythu Gogledd Cymru, Gwasg Prifysgol Lerpwl)</ref>.
 
Yng [[Cymru|Nghymru]] mae'r Fulfran yn aderyn cyffredin iawn o gwmpas y glannau ac ar lynnoedd. Bydd yn nythu yn y siroedd gorllewinol o Benfro i Ynys Môn. Yn aml i'w gweld allan yn y môr mewn siroedd eraill. Ymwelydd cyson â llynnoedd mewndirol,yn bennaf rhwng diwedd haf a dechrau gwanwyn. Mae Prydain ac Iwerddon yn gartref i tua 14% o boblogaeth Mulfrain yn Ewrop (Lloyd et al 1991). Credir bod rhwng 83,000 ac 85,000. Yn ôl arolwg Seabird Colony Register (1985-87) amcangyfrir bod tua 11,700 rhwng Prydain ac Iwerddon, ac yng Nghymru gwelwyd bod tua 1,700 o barau,sy'n dangos cynnydd o dros 19% ers yr arolwg gwreiddiol (Operation Seafarer) yn 1969-70, a thua 15% o rai Prydain ac Iwerddon.