Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 37:
Tybir bod y cynnydd graddol yn rhannol oherwydd nad yw'r Fulfran yn cael ei herlid cymaint ag y bu. Edrychid arnynt fel pla gan bysgodfeydd a chaent eu saethu oherwydd hynny. Yn arbennig, oherwydd am eu bod yn mynychu llynnoedd oedd wedi eu stocio â physgod a chronfeydd dŵr, 'roedd hyn yn eu gwneud yn gystadleuwyr gyda physgotwyr. O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gellir rheoli Mulfrain o dan drwydded i osgoi difrod i bysgodfeydd. Ond yng Nghymru yn ystod yr wythdegau 'roedd Bwrdd Dŵr Cymru yn erbyn lladd Mulfrain gan iddynt addasu polisi oedd yn rheoli'n effeithiol adar oedd yn ysglyfaethwyr pysgod drwy Gymru gyfan. Mae Rhanbarth Cymru o'r Awdurdod Afonydd wedi parhau i wneud hyn ers 1989. Boddwyd nifer fechan o Fulfrain mewn rhwydi tagellau yn agos i'r lan (D. Thomas, pers comm.), ond nid yw hi'n broblem fawr, er bod cynnydd yn y defnydd o'r rhwydi 'monofilament' hyn.
 
Mae’r niferoedd o Fulfrain yn amrywio yn y cytrefi o flwyddyn i flwyddyn, o bosib’ yn dibynnu ar faint o fwyd sydd ar gael, oherwydd ambell flwyddyn nid yw’r adar llawn dwf yn paru.
 
Gwelir y cytrefi mwyaf yng Nghymru, y rhai sydd gyda dros gant o nythod yn Ynys Santes Marged (Penfro), rhif uchaf 322 o barau (1973), Pender (Sir Aberteifi) rhif uchaf 176 o barau (1978 a 1982), Ynys yr Adar (Ynys Môn) rhif uchaf 116 o barau (1974), Ynys Seiriol (Ynys Môn) rhif uchaf 370 o barau (1986), Rhiwledyn (Sir Gaernarfon) rhif uchaf 308 o barau (1986). Astudiwyd cytref Ynys Marged gan S J Sutcliffe dros gyfnod o 25 mlynedd rhwng 1967 a 1992, ac mor bell yn ôl â 1930 amcangyfrodd Bertram Lloyd bod cant o barau yno.
 
Er bod cytref Craig yr Aderyn (Meirionydd) yn llai o faint, hwn yn ddi-os yw’r un mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Fe’i lleolir 7 cilomedr o’r môr o Dywyn (Meirionydd) ar graig gyda chytref rhwng 30 a 70 o nythod. Yn 1990, ‘roedd 67 o barau yno. Tybir bod y fan hon, gyda Mulfrain yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-oesol. Yn 1778 galwodd Thomas Pennant y lle yn ‘Graig yr Adar’ am fod yno gymaint o Fulfrain, Colomennod a Hebogiaid yn nythu yno. Nid yw safleoedd mewndirol eraill yng Nghymru wedi eu cofnodi yn y cyfnod diweddar, ond ‘roedd Mathew yn honni yn 1974 bod Mulfrain yn nythu mewn coed yn Sir Benfro yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg!
 
Tu allan i’r tymor nythu mae’r Mulfrain yn niferus o gwmpas arfordir Cymru, yn aml i’w gweld yn yr aberoedd, llynnoedd, cronfeydd dr ac afonydd. Cofnodwyd 154 allan yn y môr ger Aberystwyth yn 1983 a gwelir rhai’n pasio heibio Môr Iwerddon yn yr Hydref, yn fwyaf tebygol o gytrefi mwy gogleddol.
 
Dengys modrwyo, yn bennaf ar Ynys Santes Marged ac Ynys Seiriol bod yr adar llawn dwf a’r rhai ifanc yn gwahanu, yn fwyaf tebygol i gyfeiriagd y de a’r dwyrain, ac mae nifer cynyddol yn mudo i’r gogledd (S J Sutcliffe, in litt.) Bydd rhan o’r mudo dros y tir mawr. Gwelir hefyd bod rhai adar ifanc wedi mudo yma o’r Iseldiroedd (4), Aber Afon Rhone (1) a’r Eidal (1). Cofnodwyd un aderyn ifanc o Norwy yn Morgannwg yn ystod ei aeaf cyntaf.
 
Gwelir clwydau o 100 a mwy mewn sawl sir ee Morfa Harlech (rhif uchaf 235, Medi 1986),Goleudy Whitford Point (Gyr), (rhif uchaf113, Gorffennaf 1981), Clogwyn Friog, Meirionydd, rhif uchaf 12O, Wharley Point, Caerfyrddin rhif uchaf 283, Awst 1974, a hyd yn oed yn Sir Fynwy (rhif uchaf 100 –Piercefield, Mehefin, 1987).O’r adar sydd heb fudo dros y gaeaf (yn ôl S J Sutcliffe, pers comm.), mae nifer ohonynt yn driw i’w safle mewndirol. (i'w barhau a'i olygu)
 
 
==Mulfrain yn Ardal Llandudno==