Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
symyd testun
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 33:
Nid yw'r Mulfrain yn nythu mewn siroedd sydd â thraethau heb glogwyni sef Fflint, Dinbych, Mynwy, Caerfyrddin a Morgannwg. Nythodd nifer fechan yn Thurba Head, Penrhyn Gŵyr, hyd ddiwedd y saithdegau, ond nid ar ôl 1971. Amheuir bod rhai wedi nythu o bryd i'w gilydd yn Wharley Point a Telpyn Point yn Sir Gaerfyrddin, ond ni chafwyd prawf pendant. mae'r prif ardaloedd nythu ar hyd arfordir Cymru yn yr ardaloedd gorllewinol.
(I'w barhau a'i olygu) <ref>Lovegrove R., Williams G. a Williams I,. Birds in Wales Cyh T & D Poyser</ref>
 
==Cadarnleoedd==
Mae’r niferoedd o Fulfrain yn amrywio yn y cytrefi o flwyddyn i flwyddyn, o bosib’ yn dibynnu ar faint o fwyd sydd ar gael, oherwydd ambell flwyddyn nid yw’r adar llawn dwf yn paru.
 
Gwelir y cytrefi mwyaf yng Nghymru, y rhai sydd gyda dros gant o nythod yn Ynys Santes Marged (Penfro), rhif uchaf 322 o barau (1973), Pender (Sir Aberteifi) rhif uchaf 176 o barau (1978 a 1982), Ynys yr Adar (Ynys Môn) rhif uchaf 116 o barau (1974), Ynys Seiriol (Ynys Môn) rhif uchaf 370 o barau (1986), Rhiwledyn (Sir Gaernarfon) rhif uchaf 308 o barau (1986). Astudiwyd cytref Ynys Marged gan S J Sutcliffe dros gyfnod o 25 mlynedd rhwng 1967 a 1992, ac mor bell yn ôl â 1930 amcangyfrodd Bertram Lloyd bod cant o barau yno.
 
Er bod cytref Craig yr Aderyn (Meirionydd) yn llai o faint, hwn yn ddi-os yw’r un mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Fe’i lleolir 7 cilomedr o’r môr o Dywyn (Meirionydd) ar graig gyda chytref rhwng 30 a 70 o nythod. Yn 1990, ‘roedd 67 o barau yno. Tybir bod y fan hon, gyda Mulfrain yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-oesol. Yn 1778 galwodd Thomas Pennant y lle yn ‘Graig yr Adar’ am fod yno gymaint o Fulfrain, Colomennod a Hebogiaid yn nythu yno. Nid yw safleoedd mewndirol eraill yng Nghymru wedi eu cofnodi yn y cyfnod diweddar, ond ‘roedd Mathew yn honni yn 1974 bod Mulfrain yn nythu mewn coed yn Sir Benfro yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg!
 
Tu allan i’r tymor nythu mae’r Mulfrain yn niferus o gwmpas arfordir Cymru, yn aml i’w gweld yn yr aberoedd, llynnoedd, cronfeydd dr ac afonydd. Cofnodwyd 154 allan yn y môr ger Aberystwyth yn 1983 a gwelir rhai’n pasio heibio Môr Iwerddon yn yr Hydref, yn fwyaf tebygol o gytrefi mwy gogleddol.
 
==Erledigaeth==