Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegwyd dolenni Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
||
Llinell 46:
==Erledigaeth==
Tybir bod y cynnydd graddol yn rhannol oherwydd nad yw'r Fulfran yn cael ei herlid cymaint ag y bu. Edrychid arnynt fel pla gan bysgodfeydd a chaent eu saethu oherwydd hynny. Yn arbennig, oherwydd am eu bod yn mynychu llynnoedd oedd wedi eu stocio â physgod a chronfeydd dŵr, 'roedd hyn yn eu gwneud yn gystadleuwyr gyda physgotwyr. O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gellir rheoli Mulfrain o dan drwydded i osgoi difrod i bysgodfeydd. Ond yng Nghymru yn ystod yr wythdegau 'roedd Bwrdd Dŵr Cymru yn erbyn lladd Mulfrain gan iddynt addasu polisi oedd yn rheoli'n effeithiol adar oedd yn ysglyfaethwyr pysgod drwy Gymru gyfan. Mae Rhanbarth Cymru o'r Awdurdod Afonydd wedi parhau i wneud hyn ers 1989. Boddwyd nifer fechan o Fulfrain mewn rhwydi tagellau yn agos i'r lan (D. Thomas, pers comm.), ond nid yw hi'n broblem fawr, er bod cynnydd yn y defnydd o'r rhwydi 'monofilament' hyn.
==Mulfrain yn Ardal Llandudno==
|