Mulfran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
||
Llinell 42:
Er bod cytref Craig yr Aderyn (Meirionydd) yn llai o faint, hwn yn ddi-os yw’r un mwyaf adnabyddus yng Nghymru. Fe’i lleolir 7 cilomedr o’r môr o Dywyn (Meirionydd) ar graig gyda chytref rhwng 30 a 70 o nythod. Yn 1990, ‘roedd 67 o barau yno. Tybir bod y fan hon, gyda Mulfrain yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-oesol. Yn 1778 galwodd Thomas Pennant y lle yn ‘Graig yr Adar’ am fod yno gymaint o Fulfrain, Colomennod a Hebogiaid yn nythu yno. Nid yw safleoedd mewndirol eraill yng Nghymru wedi eu cofnodi yn y cyfnod diweddar, ond ‘roedd Mathew yn honni yn 1974 bod Mulfrain yn nythu mewn coed yn Sir Benfro yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg!
Tu allan i’r tymor nythu mae’r Mulfrain yn niferus o gwmpas arfordir Cymru, yn aml i’w gweld yn yr aberoedd, llynnoedd, cronfeydd dr ac afonydd. Cofnodwyd 154 allan yn y môr ger Aberystwyth yn 1983 a gwelir rhai’n pasio heibio Môr Iwerddon yn yr Hydref, yn fwyaf tebygol o gytrefi mwy gogleddol
Gwelir clwydau o 100 a mwy mewn sawl sir ee Morfa Harlech (rhif uchaf 235, Medi 1986),Goleudy Whitford Point (Gyr), (rhif uchaf113, Gorffennaf 1981), Clogwyn Friog, Meirionydd, rhif uchaf 12O, Wharley Point, Caerfyrddin rhif uchaf 283, Awst 1974, a hyd yn oed yn Sir Fynwy (rhif uchaf 100 –Piercefield, Mehefin, 1987).O’r adar sydd heb fudo dros y gaeaf (yn ôl S J Sutcliffe, pers comm.), mae nifer ohonynt yn driw i’w safle mewndirol. (i'w barhau a'i olygu)<ref name="Lovegrove, R. 1994"/>..
==Symudiadau==
|