Y Dywysoges Gwenllian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Manion using AWB
Llinell 8:
Cafodd Gwenllian ei geni yn llys tywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[Abergwyngregyn|Aber Garth Celyn]], Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi. Mewn llai na blwyddyn roedd ei thad hefyd yn farw.
 
Ar ôl i [[Tywysogaeth Cymru|Dywysogaeth Cymru]] syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]], bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu [[Aberffraw]]. Roedd [[Eryri]] a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor bu cyfnod dychrynllyd yn hanes y wlad gyda'rroedd milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
 
Daliwyd Gwenllian. Yr oedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl i Goron [[Lloegr]] ac o ganlyniad fe'i ducpwyd o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn [[Sempringham]], [[Lloegr]], a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn [[1337]]. Mae'n fwy na thebyg na siaradai Gymraeg ac na chlywodd air o Gymraeg gan y lleianod eraill. Yng nghofnodion Sempringham, nodir ei henw fel 'Wencilian', eu hynganiad o'i henw.