Toulon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|de|250px|Eglwys Gadeiriol Toulon Dinas yn ne Ffrainc yw '''Toulon''' (''Occitaneg'' ''Tolon'' neu ''Touloun''). Saif ar arfordi...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:17, 5 Awst 2008

Dinas yn ne Ffrainc yw Toulon (Occitaneg Tolon neu Touloun). Saif ar arfordir y Môr Canoldir ac mae'n un o ganolfannau pwysicaf Llynges Ffrainc. Mae'n brifddinas departément Var, yn region Provence-Alpes-Côte-d'Azur.

Eglwys Gadeiriol Toulon

Roedd poblogaeth y ddinas yn 2005 yn 167,400; saif yn bymthegfed ymhlith dinasoedd Ffrainc o ran poblogaeth. Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig (aire urbaine) yn 564,823 yn 1999, y degfed yn Ffrainc o ran maint.

Sefydlwyd tref Rufeinig Telo Martius yma yn yr ail ganrif CC, wedi i'r Rhufeiniaid orchfygu'r Ligwriaid.